Artiklid

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

: Philip Cosgrave

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.


Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori
Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori
Bydd lefelau nitrogen a sylffwr yn debygol o fod yn is na'r disgwyl y gwanwyn hwn

Lefelau nitrogen a sylffwr ddylai fod y pethau cyntaf i'w hystyried wrth gynllunio gwrtaith y gwanwyn.

Yn nodweddiadol mae 70 - 80% o holl fas gwreiddyn mewn porfa wair yn y 7.5cm uchaf. Mewn gaeafau rhesymol byddech yn disgwyl y byddai peth nitrad a sylffad yn aros yn adran arwyneb y gwreiddyn, ond gyda dros draean yn fyw o law yn syrthio yn ystod yr hydref a'r gaeaf mae'n rhesymol i ddisgwyl nad oes fawr o nitrad na sylffwr yn weddill.

Ar ffermydd pori dwys, rhowch tua 25-30kg/hectar (20-25 uned/erw) o nitrogen fel y gwrteithiad cyntaf. Mae mwy na hyn yn wastraff, gan fod cyfraddau tyfu dyddiol gwair yn gynnar yn y gwanwyn yn dal yn araf iawn (<5kg/hectar DM).

Dylid bob amser roi nitrogen gyda sylffwr, yn arbennig yn gynnar yn y gwanwyn pan fydd lefelau sylffwr yn isel yn dilyn trwytholchi'r gaeaf a lleihad mwyneiddiad mewn priddoedd oer.  Mae  YaraBela Axan (27% N+9% SO3) neu YaraBela Nutri-Booster (25% N + 5% SO3 a Se) yn wrteithiau cyfansawdd nitrogen a sylffwr sy'n gwasgaru'n gyfartal ac mae ganddynt y gymhareb nitrogen i sylffwr gywir ar gyfer gwair. Cadwch lygad ar dymheredd y pridd ac os yw'n 5°C neu uwch a bod amodau'r pridd yn ddigon sych, heb rewi ac nad oes rhagolygon am law trwm yna mae'n ddiogel i'w wasgaru.

Bydd padogau sydd â mynegeion K pridd isel yn elwa fwyaf gan ddefnydd slyri

Cwmpas i ddefnyddio slyri yn hytrach na nitrogen gwrtaith ar badogau sydd â'r gorchuddion gwair isaf. Osgowch roi slyri ar rai sydd â gorchudd trymach hyd nes wedi'r pori cyntaf. Cofiwch fod colledion amonia (nitrogen) o slyri yn dyblu am bob cynnydd 5°C yn nhymheredd yr aer, felly anogir ei ddefnyddio yn y gwanwyn. Po fwyaf dyfrllyd yw'r slyri yr isaf fydd y golled o ran amonia, gan fod y math hwn o slyri yn mynd i mewn i'r pridd yn gyflymach gan gau'r amonia yn y pridd.

Blaenoriaethwch slyri ar gyfer padogau pori mynegai pridd potasiwm isel (yn arbennig rhai a gafodd fêls wedi'u tynnu llynedd) a chaeau silwair. Lleihewch y cyfraddau defnydd nitrogen gwrtaith ar badogau sydd wedi cael slyri. Caniatewch ar gyfer 6 uned/N fesul 1,000 galwyn gyda phlât tasgu a 9 uned/N gyda 'trailing shoe'. Gadewch 5-7 diwrnod rhwng rhoi gwrtaith ac yna slyri neu i'r gwrthwyneb.

Cadwch lygad ar y cyfraddau rhoi slyri, gan y bydd defnyddio cyfraddau uwch ar gaeau agosach i'r buarth yn effeithio'n fawr ar gydbwysedd ffrwythlondeb y fferm. Er enghraifft, os yw'r gyfradd targed yw 1,500 galwyn/erw ac mewn padogau agosach i'r buarth mae'n 2,000 ac ymhellach o'r buarth mae'n 1,000, golyga hyn bod y 500 galwyn ychwwanegol y mae'r padogau agosach i'r buarth yn eu cael yn cyfateb i'r gofynion cynnal potasiwm blynyddol ar gyfer pori. Felly, os ydych yn ceisio meithrin ffrwythlondeb potasiwm ar rai padogau penodol efallai y byddwch yn meddwl pam nad ydynt yn codi.

Targedwch badogau P pridd isel gyda gwrtaith NPKS cyfansawdd

Targedwch badogau gyda mynegai ffosfforws (P) o 0 neu 1, gyda gwrtaith cyfansawdd, megis YaraMila Stock Booster S (25-5-5+5% SO3+Se) cyn gynted ag y bydd yr amodau yn caniatáu hynny er mwyn rhoi cychwyn da a chynnal tyfiant gwair y gwanwyn hwn.

Cofiwch, mae amodau oer a gwlypach yn y gwanwyn yn dwysau'r effaith y mae P pridd isel yn ei gael ar argaeledd ffosfforws a thyfiant gwair, gydag argaeledd ffosffad yn cael ei leihau'n sylweddol mewn caeau dirlawn. Mae'r amodau hyn yn cynyddu hydoddedd haearn ac alwminiwm pridd sydd yn ei dro yn effeithio ar argaeledd ffosffad pridd. Yn gyffredinol, hyd yn oed mewn blynyddoedd sychach mae mwy nag 20% o ymateb tyfiant wrth gyfuno sylffwr, ffosffad a nitrogen mewn gwrteithio gwanwyn cynnar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwrtaith NPKS cyfansawdd i roi'r dechrau gorau posibl i'ch gwair

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am faeth glaswelltir

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...